Gan Catrin Lewis | Golygydd Taf-od
Fel rhan o ganllawiau coronavirus diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae gwaharddiad wedi cael ei osod ar werthu nwyddau dianghenraid mewn archfarchnadoedd.┬á Mae hyn er mwyn cyfynguÔÇÖr amser y bydd cwsmeriaid yn ei dreulio yn y siopau ac er mwyn sicrhau na fydd pobl yn mynd iÔÇÖr archfarchnadoedd oni bai ei fod yn angenrheidiol.
Mae hyn wedi arwain at adlach gan y cyhoedd ac mae dros 58,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb iÔÇÖr Senedd yn gwrthwynebuÔÇÖr penderfyniad a wnaed gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.┬á DymaÔÇÖr bedwaredd ddeiseb i gyrraedd mwy na 25,000 o lofnodion.
MaeÔÇÖr gwaharddiadau yn cynnwys nwyddau fel dillad, offer trydanol, teganau, llyfrau a dodrefn t┼À.┬á Yn wreiddiol nid oedd caniat├ód i archfarchnadoedd werthuÔÇÖr nwyddau hyn hyd at ddiwedd y cyfnod clo tan ar y 9fed o Dachwedd.┬á Fodd bynnag, mae rhai eithriadau wedi eu gwneud erbyn hyn.
Yn dilyn yr adlach aÔÇÖr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol, mae rhestr newydd wedi cael ei gyhoeddi o nwyddau syÔÇÖn cael eu hystyried fel angenrheidiol syÔÇÖn cynnwys dillad babi a chardiau cyfarch.
Yn ogystal, cyhoeddodd Mr Drakeford ddydd Sul y bydd hawl i gwsmeriaid ofyn i gael prynu nwyddau sydd ddim yn ymddangos ar y rhestr o dan amgylchiadau eithriadol a chyn belled ei fod yn synhwyrol.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio bydd y canllawiau newydd
ÔÇ£yn rhoi datrysiad ymarferol i fasnachwyr a chwsmeriaid.┬á Fodd bynnag, ni allwn symud o’r egwyddor ganolog y dylai masnachwyr gyfyngu gwerthiant nwyddau dianghenraid yn ystod y clo byr.ÔÇØ
Gwnaed y penderfyniad yn wreiddiol oherwydd y pryderon oedd gan rhai am y gwerthiant o nwyddau dianghenraid mewn archfarchnadoedd yn ystod y cyfnod clo cyntaf.┬á Dadleuodd rhai bod hyn yn rhoi mantais annheg i archfarchnadoedd tra roedd yn rhaid i fusnesau bach gauÔÇÖn gyfan gwbl.
Er gwaethaf yr ymateb negyddol, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu bod y penderfyniad cywir wedi cael ei wneud ac felly bydd y gwaharddiadauÔÇÖn aros mewn lle am weddill y cyfnod clo byr.
ÔÇ£Ein penderfyniad gwreiddiol yw’r un iawn. Os oes angen ailedrych ar sut mae’r rheolau yn cael eu gweithredu a’u dehongli – yna mi wnawn ni hynny.ÔÇØ
Un oÔÇÖr prif resymau tu ├┤l addasuÔÇÖr gwaharddiad ywÔÇÖr ffaith bod esiamplau wedi codi dros y penwythnos o nwyddau dianghenraid yn dod yn angenrheidiol i bobl mewn sefyllfaoedd eithriadol.┬á Er enghraifft soniodd Mr Drakeford am un achos sef,
ÔÇ£dros y penwythnos am blentyn yn cyrraedd ei deulu maeth heb ddim – y mae hynny yn fater eithriadol ac yn sefyllfa sydd angen delio ├ó hi”.
Yn ogystal, rhannodd Chelsea Jones oÔÇÖr Rhondda ei phrofiad hi ar Facebook.┬á Dywedodd ei bod wedi gorfod mynd aÔÇÖi merch iÔÇÖr ysbyty yng Nghaerdydd ac wedi ceisio mynd i archfarchnad gyfagos i brynu pyjamas iddi gan fod gwaed ar ei dillad hi.┬á Fodd bynnag, ni chafodd brynu rhai oherwydd y cyfyngiadau ar werthu dillad.┬á O ganlyniad roedd yn rhaid i Chelsea yrru adref mewn panig i n├┤l dillad.┬á Dywedodd y canlynol am y cyfyngiadau:
ÔÇ£Chi byth yn gwybod pryd mae nwyddau dianghenraid yn gwbl angenrheidiol,ÔÇØ
ac aeth yn ei blaen i ychwanegu
ÔÇ£Dwi ddim yn un i danseilio difrifoldeb Covid ac rwyf wastad wedi ceisio ufuddhau i’r rheolau ond mae’n rhaid i’r rheolau yma newidÔÇØ.
Felly, maeÔÇÖr Prif Weinidog yn galw ar bobl i ddefnyddio eu synnwyr cyffredin unwaith eto ac i beidio mynd i archfarchnadoedd os nad ywÔÇÖn gwbl angenrheidiol gwneud hynny.┬á Y gobaith yw y bydd y cyfnod clo byr fod yn lleihau’r straen ar y GIG dros yr wythnosau nesaf ac mewn tro’n achub bywydau.┬á Mae effeithiolrwydd y cyfyngiadau yn debyg o ddod iÔÇÖr amlwg wrth edrych ar yr ystadegau dros yr wythnosau nesaf.
Add Comment