Taf-Od

Castell Gwrych yn cipioÔÇÖr Jwngl

Llwyfan y Jwngl: Dyma lle fydd I'm a Celebrity yn cael ei gynnal eleni. Tarddiad: Dot Potter Drwy Wikipedia Commons)
Llwyfan y Jwngl: Dyma lle fydd I'm a Celebrity yn cael ei gynnal eleni. Tarddiad: Dot Potter Drwy Wikipedia Commons)
Na, nid jwngl Awstralia yw cartref y rhaglen deledu boblogaidd Im a CelebrityGet me out of here! eleni.

Gan Annell Dyfri | Golygydd Cymraeg

Na, nid jwngl Awstralia yw cartref y rhaglen deledu boblogaidd Im a CelebrityGet me out of here! eleni. Yn sgil y pandemig cyfredol, roedd hin amhosibl ffilmior rhaglen yn ei chartref arferol ac aed ati i chwilio am leoliad newydd ar ei chyfer. Bur cynhyrchwyr yn chwilio yma a thraw gan ystyried sawl opsiwn posibl ar gyfer cartrefu un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain. Ac wedi hir ddisgwyl, dyma gytuno ar leoliad or newydd, a hynny yng ngogledd Cymru.

Gyda s├»on di-ri wedi bod yn crwydroÔÇÖr cyfryngau cymdeithasol dros y misoedd diwethaf, dyma gyhoeddiad yn dod i law gan ITV yn nodi mai Castell Gwrych, ger Abergele, fyddai cartref Ant a Dec aÔÇÖu criw am gyfnod fis Hydref. Castell Gwrych? Abergele?

Lleoliad annisgwyl?

GydaÔÇÖr cyhoeddiad yn un swyddogol erbyn hyn, beth a wyddom ni am y lleoliad annisgwyl hwn? Cafodd yr adeilad presennol ei adeiladu ddechrauÔÇÖr bewaredd ganrif aÔÇÖr bymtheg ar lecyn lle bu cartrefi amrywiol ers y canol oesoedd. Tan yn gymharol ddiweddar, buÔÇÖn adfail cyn i sawl perchennog cyfoethog ei brynu gan addo ei droiÔÇÖn westy pum seren. Er na wireddwyd y freuddwyd honno, bu criw o wirfoddolwyr lleol wrthiÔÇÖn brysur yn adfer yr adeilad yn ystod y blynyddoedd diweddar. Ac wrth gwrs, fel syÔÇÖn arferol ar gyfer adeilad fel hwn, dywedir bod ysbryd yn crwydroÔÇÖr coridorau o bryd iÔÇÖw gilydd. Tybed a oes rhywrai wedi rhannu hyn gydaÔÇÖr cystadleuwyr?

Yr ymateb yn lleol

Wedi i ITV gyhoeddiÔÇÖr lleoliad yn ddiweddar, tybed sut ymateb gafwyd iÔÇÖr newyddion hwnnw yn yr ardal?

Mae nifer wedi trydar eu bod yn croesawuÔÇÖr rhaglen i ogledd Cymru gan nodi ei fod yn gyfle i godi proffil y rhan hon o Gymru yn ehangach. Mae nifer yn teimlo hefyd y gallai fod yn fanteisiol iÔÇÖr diwydiant twristiaeth gan ddenu rhagor o ymwelwyr i arfordir gogledd Cymru. Nododd Siwan Mason o Lanfairpwll fod y rhaglen am fod yn ÔÇÿhwb mawr i bresenoldeb gogledd Cymru ÔÇô yn enwedig wrth ystyried y lle fel atyniad twristiaeth y dyfodolÔÇÖ. Ychwanegodd Tomos Glyn, syÔÇÖn enedigol o Abergele fod cael ÔÇÿcyfres mor boblogaidd ├ó IÔÇÖm a Celebrity yn sicr o ddenu sylw iÔÇÖn hardalÔÇÖ. Er bod Tomos bellach yn fyfyriwr yn y brif ddinas, ychwanegodd ÔÇÿmaeÔÇÖn braf bod yr ardal yn cael sylw yn y wasg a thrwy hyn ‘da niÔÇÖn gobeithio y gall roi hwb iÔÇÖr economi lleolÔÇÖ.

Effaith y lleoliad newydd

MaeÔÇÖr rhaglen yn darlledu ei hugeinfed gyfres eleni syÔÇÖn adlewyrchiad o lwyddiant y rhaglen ar hyd y blynyddoedd. Gydag oddeutu 9 miliwn o bobl yn gwylioÔÇÖr rhaglen yn flynyddol, a fydd newid lleoliad yn golygu newid yn nifer y gwylwyr?

Awgrymodd Elin Roberts, un sydd wedi bod yn gwylioÔÇÖr rhaglen ers blynyddoedd bellach, y ÔÇÿbydd gan lawer o bobl o Gymru ddiddordeb i wylioÔÇÖr rhaglen gan fod y rhaglen wastad wedi bod yn Awstralia ac mae newid lleoliad yn medru gwneud y gyfres yn fwy cyffrousÔÇÖ. Er hyn ychwanegodd ÔÇÿefallai bydd llawer yn peidio gwylio eleni gan eu bod yn hoffi normalrwydd y gyfres, ac efallai gan fod llai o bobl yn ymwybodol o Gymru.ÔÇÖ

Er nad yw lleoliad newydd y rhaglen mor egsotig ├ó jwngl Awstralia, maeÔÇÖr ffaith ei bod wedi ei lleoli mewn hen adeilad ar ffurf castell, gydaÔÇÖi ystafelloedd dirgel, ei diroedd eang aÔÇÖi naws ganoloesol yn cynnig pob math o, opsiynau iÔÇÖr cynhyrchwyr. A pheidied ag anghofio am yr ysbryd ÔÇÿna chwaith!

Pryderon

Tra bod y mwyafrif yn croesawuÔÇÖr penferyniad i leoli IÔÇÖm a Celebrity yng Nghastell Gwrych, mae rhai yn lleol yn poeni y gallaiÔÇÖr ddau gyflwynydd fod yn ddilornus oÔÇÖr Gymraeg aÔÇÖi diwylliant gan fethu ag ynganu enwÔÇÖr castell yn gywir. Efallai fod cyfle i rywun neu rywrai gynnig arweiniad neu gyngor iÔÇÖr ddau Geordie hoffus cyn iÔÇÖr gyfres gychwyn yn hwyrach yn yr hydref.

Efallai y byddai gan ysbryd y castell rywbeth iw ddweud ar y mater.

 

About the author

Tafod

Add Comment

Click here to post a comment